Yuri Gagarin
Oddi ar Wicipedia
Gofodwr Sofietaidd a'r gofodwr cyntaf i deithio i'r gofod oedd Yuri Gagarin (1934 ger Smolensk - 1968). Lansiwyd ei roced, Vostok 1, ar 12 Ebrill 1961. Treuliodd tua 90 munud yn y gofod, digon i fynd rownd y Ddaear unwaith, cyn glanio yn yr Undeb Sofietaidd. Gwelwyd yr hediad fel buddugoliaeth bropaganda anferth yn ystod y Rhyfel Oer.
Cafodd ei ladd mewn damwain awyren.
Mae cyfeiriadau at Yuri Gagarin yng nghân y Sibrydion, 'Diasbedain'.