Martin Luther King

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Martin Luther King
Martin Luther King Jr NYWTS.jpg
Geni 15 Ionawr, 1929
Atlanta, Georgia, Baner Unol Daleithiau Unol Daleithiau
Marw 4 Ebrill, 1968
Memphis, Tennessee, Baner Unol Daleithiau Unol Daleithiau
Galwedigaeth Ymgyrchydd, gweinidog

Arweinydd anufudd-dod sifil di-drais yn yr Unol Daleithiau (UDA), a gweinidog gyda'r Bedyddwyr oedd y Parch Martin Luther King, Iau (15 Ionawr 1929 - 4 Ebrill 1968). Mae'n un o'r arweinwyr mwyaf arwyddocaol yn hanes yr Unol Daleithiau. Ystyrir ef yn arwr, yn heddychwr ac yn ferthyr gan filiynau ar draws y byd.

Fe briododd Coretta Scott ar Mehefin y 18fed, 1953. Cymerodd Martin Luther ran ym moycot y bysiau, ble gwrthododd llawer o bobl ddu rhoi lan eu seddau i bobl gwyn. Enillodd Wobr Heddwch Nobel - yr ieuengaf erioed i wneud hynny, a hynny yn 1964.

Llofruddiwyd ef yn y Lorraine Motel yn Memphis, Tennessee ar 4 Ebrill 1968; roedd yn sefyll ar y balconi pan darawyd ef gan fwled.


Flag of the United States.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato