Llangefni
Oddi ar Wicipedia
| Llangefni Ynys Môn |
|
Tref yng nghanol Ynys Môn yw Llangefni, sydd wedi bod yn dref farchnad bwysig i'r ynys. Llangefni yw tref sirol Môn a lleolir pencadlys Cyngor Sir Ynys Môn yma. Yn ôl Cyfrifiad 2001, mae gan Llangefni boblogaeth o 4,499 o bobl. Mae 83.8% o'r boblogaeth honno'n rhugl yn y Gymraeg gyda'r canran uchaf yn yr oedran 10-14 mlwydd gyda 95.2% yn medru'r Gymraeg. O'i tharddle ger Llyn Cefni rhed Afon Cefni trwy'r dref, sy'n cymryd ei enw o'r afon.
Yn y dref ceir Oriel Ynys Môn, gyda amgueddfa sy'n olrhain hanes yr ynys ac oriel i ddangos gwaith yr arlunydd bywyd gwyllt Charles Tunnicliffe.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw.
Mae eglwys y plwyf, Eglwys Cyngar Sant, yn sefyll mewn coed yn y Dingle. Un o enwau'r dref yn y gorffennol oedd 'Llangyngar', hen enw'r eglwys.
[golygu] Addysg
Prif ysgol y cylch yw Ysgol Gyfun Llangefni. Ar safle yng ngorllewin y dref.
Ceir campws lleol Coleg Menai yn y dref.
[golygu] Chwaraeon
Mae Clwb Peldroed Llangefni yn chwarae yn Uwchgynghrair Cymru.
Ceir Clwb Rygbi Llangefni hefyd.
[golygu] Enwogion
- John Elias. Bu'r pregethwr enwog yn byw yn Llangefni o 1830 hyd 1841.
- Christmas Evans. Bu'r pregethwr yn byw yn y dref yn y cyfnod 1791–1826.
- Hywel Gwynfryn, cyflwynydd radio a aned yn y dref.
- Kyffin Williams, arlunydd a aned yn y dref yn 1908.
[golygu] Eisteddfod Genedlaethol
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Llangefni ym 1957 a 1983. Am wybodaeth bellach gweler:
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachreth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfairpwllgwyngyll · Llanfair-yn-neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llanynghenedl · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Niwbwrch · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Trearddur · Trefor · Tregele
