Gwynedd
Oddi ar Wicipedia
- Mae'r erthygl yma am sir Gwynedd. Am yr hen deyrnas ganoloesol gweler Teyrnas Gwynedd.
| Gwynedd (1996-heddiw) | |
![]() |
|
| Gwynedd (1974-1996) | |
![]() |
Sir yng ngogledd-orllewin Cymru yw Gwynedd. Mae'n ffinio â Sir Conwy i'r dwyrain a gogledd Powys a Ceredigion i'r de. Mae Gwynedd yn sir y mae cyfartaledd uchel o'i phoblogaeth yn siarad Cymraeg. Mae'r prif drefi yn cynnwys dinas Bangor, Caernarfon, Dolgellau, Harlech, Blaenau Ffestiniog, Y Bala, Porthmadog, Pwllheli, Bethesda a Llanberis. Lleolir Prifysgol Bangor yn y sir. Plaid Cymru sy'n rheoli'r Cyngor Sir ar hyn o bryd.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Roedd yr hen sir Gwynedd (1974-1996) yn cyfateb yn fras i Gwynedd Uwch Conwy, prif diriogaeth Teyrnas Gwynedd. Roedd yn cynnwys rhan orllewinol Sir Conwy, yn cynnwys y Creuddyn, ac Ynys Môn, sef yr hen Sir Gaernarfon, Sir Fôn a Sir Feirionnydd. Mae'r hen sir yn bodoli o hyd fel un o "siroedd cadwedig" Cymru at bwrpasau seremonïol.
[golygu] Daearyddiaeth
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Dominyddir y Wynedd bresennol gan fynyddoedd Eryri, sy'n cynnwys Yr Wyddfa, mynydd uchaf Cymru. Mae Afon Menai yn gorwedd rhwng Arfon yng ngogledd y sir ac Ynys Môn. Yng ngogledd-orllewin y sir ceir penrhyn Llŷn.
[golygu] Economi
Ceir economi cymysg yn y sir. Mae rhan bwysig o'r economi yn seiliedig ar dwristiaeth gyda nifer o ymwelwyr yn cael eu denu gan y traethau niferus a'r mynyddoedd. Gorwedd rhan sylweddol o'r sir ym Mharc Cenedlaethol Eryri, sy'n ymestyn o arfordir y gogledd i lawr i ardal Meirionnydd yn y de ac yn llawer ehangach na'r Eryri go iawn. Ond gwaith tymhorol yw twristiaeth ac mae hynny'n golygu diffyg gwaith yn y gaeaf. Problem arall gyda thwristiaeth yw'r alwad a greir am dai haf. Mae hyn yn gwthio prisiau tai i fyny allan o gyrraedd pobl leol ac yn effeithio ar sefyllfa'r iaith Gymraeg yn yr ardaloedd gwledig.
Mae amaethyddiaeth yn llai pwysig nag yn y gorffennol, yn enwedig yn nhermau y nifer o bobl sy'n ennill eu bywiolaeth o'r tir, ond mae'n aros yn elfen bwysig.
Y pwysicaf o'r diwydiannau traddodiadol yw'r diwydiant llechi, ond canran isel o weithwyr sy'n ennill eu bywoliaeth yn y chwareli erbyn heddiw.
Mae diwydiannau sydd wedi datblygu yn fwy diweddar yn cynnwys stiwdios teledu a sain (lleolir pencadlys Cwmni Recordiau Sain yn y sir). Ceir dau atomfa yng Ngwynedd: mae atomfa Trawsfynydd wedi cau ond ar hyn o bryd mae atomfa Wylfa yn dal i redeg.
Mae'r sector addysg yn bwysig iawn i'r economi lleol hefyd. Lleolir Prifysgol Bangor yma a cheir sawl coleg arall fel Coleg Menai hefyd.
[golygu] Prif drefi
- Abermaw neu Y Bermo
- Y Bala
- Bangor
- Blaenau Ffestiniog
- Caernarfon
- Porthmadog
- Pwllheli
[golygu] Cymunedau
Ar gyfer llywodraeth leol ceir sawl cymuned yng Ngwynedd. Mae nifer o'r rhain gyda'i chynghorau eu hunain.
[golygu] Cestyll
- Castell Caernarfon
- Castell Cricieth
- Castell Dolbadarn
- Castell Dolwyddelan
- Castell Harlech
- Castell y Bere
[golygu] Dolenni allanol
[golygu] Gweler hefyd
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Abererch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abermaw · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Y Bala · Bangor · Beddgelert · Bethania · Bethel · Bethesda · Betws Garmon · Blaenau Ffestiniog · Boduan · Bontddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Caernarfon · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Cricieth · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolgellau · Dolbenmaen · Dyffryn Ardudwy · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Frongoch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Gellilydan · Golan · Groeslon · Harlech · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llangybi · Llangywair · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Nefyn · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhyndeudraeth · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Porthmadog · Portmeirion · Pwllheli · Rachub · Rhiw · Rhosgadfan · Rhoslan · Rhostryfan · Rhyd · Rhyd-Ddu · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Sling · Soar · Talsarnau · Talybont, Abermaw · Talybont, Bangor · Talysarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tregarth · Tudweiliog · Tywyn · Waunfawr

