Gaeleg yr Alban

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Gaeleg (Gàidhlig)
Siaredir yn: Yr Alban, Canada
Parth:
Siaradwyr iaith gyntaf: 58,652 (Yr Alban)
500-1000 (Nova Scotia)
Safle yn ôl nifer siaradwyr: Dim yn y 100 uchaf
Achrestr ieithyddol: Indo Ewropeaidd

 Celteg
  Ynysol
   Goideleg
    Gaeleg yr Alban

Statws swyddogol
Iaith swyddogol yn: Yr Alban
Rheolir gan: Bòrd na Gàidhlig
Codau iaith
ISO 639-1 gd
ISO 639-2 gla
ISO 639-3 gla
Gweler hefyd: IaithRhestr ieithoedd

Mae Gaeleg yr Alban (Gaeleg: Gàidhlig) yn un o'r chwe iaith Geltaidd. Mae'n un o'r tair iaith Oidelig sy'n tarddu o'r iaith Geltaidd hynafol Goideleg, gyda Gwyddeleg a Manaweg. Yn hanesyddol, gelwir hi yn Albaneg yn Gymraeg weithiau hefyd, ond mae ieithyddwyr modern yn defnyddio'r term hwnnw i gyfeirio at iaith Albania. Fe'i gelwir yn 'Gaeleg yr Alban' er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a'i chwaer-iaith, Gwyddeleg ('Gaeleg Iwerddon'), sy'n perthyn yn agos iddi.

Mae tua 60,000 o bobl yn yr Alban yn siarad Gaeleg heddiw, gyda chanran sylweddol yn byw yn y Gàidhealtachd.

Gaeleg oedd iaith wreiddiol rhan helaeth teyrnas yr Alban, er i ffurf ar Frythoneg gyda pherthynas glos â Hen Gymraeg (Cymbreg) a Picteg gael eu siarad mewn rhannau hefyd, ond o'r bymthegfed ganrif ymlaen collodd ei statws i fath o Saesneg a ddatblygodd yn Sgoteg. Yn groes i'r farn gyffredinol, 'roedd Gaeleg yn cael ei siarad dros yr rhan fwyaf o Iseldiroedd yr Alban ar un adeg, yn ogystal â'r Ucheldiroedd, ac mae enwau lleoedd o darddiad Gaeleg yn niferus yn ne a dwyrain y wlad.

Erbyn heddiw mae Gaeleg yn dal yn iaith fyw yn y gogledd orllewin, yn enwedig yn Ynysoedd y Gorllewin, neu Ynysoedd Heledd. Cyngor Ynysoedd y Gorllewin ydyw'r cyngor cyntaf yn yr Alban i gyflwyno cynllun iaith Aeleg debyg i gynlluniau iaith cyrff swyddogol yng Nghymru.

Yng Nghanada, mae'r iaith yn cael ei siarad gan tua 1 000 o bobl yn Yr "Alban Newydd". Iaith geffredin roedd hi, ond heddiw Mae Canada heb ei chefnogi. Mae'r rhan fwyaf o ei siaradwyr yn hen iawn.

Wikipedia

[golygu] Cysylltiadau allanol

Ieithoedd Celtaidd / Celteg
Chwe Chenedl Geltaidd syml.png
Brythoneg- (P-Celteg) Goideleg- (Q-Celteg)
Gwenn ha du.svg
Flag of Cornwall.svg
Flag of Wales 2.svg
Flag of Ireland.svg
Flag of the Isle of Man.svg
Flag of Scotland.svg
Llydaweg · Cernyweg · Cymraeg | Gwyddeleg · Manaweg · Gaeleg yr Alban
Ccross.png
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd


Flag of Scotland.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Alban. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato