Y Ddaear
Oddi ar Wicipedia
| Symbol | ♁ | ||||||
|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Nodweddion orbitol | |||||||
| Pellter cymedrig i'r Haul | 1 US 149,597,890 km |
||||||
| Radiws cymedrig | 147,100,000 - 152,100,000km | ||||||
| Echreiddiad | 0 | ||||||
| Parhad orbitol | 365.24d | ||||||
| Buanedd cymedrig orbitol | 29,785.9 km s-1 | ||||||
| Gogwydd orbitol | 0.00005° | ||||||
| Nifer o loerennau | 1 | ||||||
| Nodweddion materol | |||||||
| Diamedr cyhydeddol | 12,756.270 km | ||||||
| Diamedr pegwn | 12,713.500 km | ||||||
| Diamedr average | 12,745.591 km | ||||||
| Arwynebedd | 5.1×108km2 | ||||||
| Más | 5.9737×1024 kg | ||||||
| Dwysedd cymedrig | 5.515 g cm-3 | ||||||
| Disgyrchiant ar yr arwyneb | 9.766 m s-2 | ||||||
| Parhad cylchdro | 23.934a | ||||||
| Albedo | 0.38 | ||||||
| Buanedd dihangfa | 5.02 km s-1 | ||||||
| Tymheredd ar yr arwyneb: |
|
||||||
| Nodweddion atmosfferig | |||||||
| Gwasgedd atmosfferig | 101.32kPa | ||||||
| Nitrogen | 77% | ||||||
| Ocsigen | 21% | ||||||
| Argon | 1% | ||||||
Y Ddaear yw'r blaned yr ydym ni'n byw arni. Hi yw'r drydedd blaned oddi wrth yr Haul, canolbwynt Cysawd yr Haul. Mae gan y Ddaear un lleuad. Mae'r Ddaear yn cylchdroi unwaith o amgylch yr Haul bob blwyddyn (365.2422 niwrnod), ac yn troi o gylch ei hechel ei hunan unwaith bob diwrnod serenol (23.934 awr), sef yr amser sydd ei angen er mwyn i'r haul ddychwelyd i'r un lle yn y wybren. Mae'r ddaear yn unigryw o blith y planedau a wyddys hyd yn hyn gan fod ganddi ddigonedd o ddŵr ac awyr sy'n gyfoethog o nitrogen ac ocsigen ; ond er hynny dydi hi ddim yr unig enghraifft o blaned ddaearol yn y bydysawd a all gynnal bywyd.
Ceir pob math o diroedd ar wyneb y ddaear : tir a orchuddir gan goedwigoedd, tir lle ceir glaswellt, tir diffaith lle nad oes dim yn tyfu a thir wedi ei orchuddio gan eira a iâ. Gall y wyneb fod yn wastad, yn fryniog neu yn fynyddig. Hefyd mae pob math o bethau byw ar y ddaear, yn blanhigion ac anifeiliaid ac organebau byw eraill.
Cynnwys |
[golygu] Cronoleg
Mae gwyddonwyr wedi gallu adlunio darlun o orffennol y ddaear. Darganfyddwyr y mater solar hynaf a 4.5672 ± 0.0006 biliwn blynedd yn ôl.
[golygu] Esblygiad
prif erthygl:Esblygiad
Mae'r Ddaear yn cynnig yr unig esiampl o amgylchedd sy'n medru cynnal esblygiad bywyd.
[golygu] Cyfansoddiad ac adeiledd
prif erthygl:Gwyddorau daear
Mae'r Ddaear yn blaned ddaearol, sy'n golygu fod ganddo gorff creigiog, yn hytrach na chawr ia fel Iau. Dyma yw'r blaned fwyaf allan o'r pedwar planed ddaearol sydd yng nghysawd yr haul. Mae gan y Ddaear y dwysedd fwyaf, disgyrchedd fwyaf, y grym magnetig cryfaf, cylchdroed cyflymaf a hefyd y blaned efo tectonig fwyaf gweithgar.
[golygu] Siâp
Mae gan y Ddaear siâp sffêr oblad. Mae hyn yn golygu ei fod yn chwyddo yn y canol ar y cyhydedd.
[golygu] Platiau Tectonig
prif erthygl:Tectoneg platiau
Tectonig platiau neu symudiadau'r platiau yw'r theori ddaearegol sy'n esbonio symudiadau mawr o fewn cramen y Ddaear.
[golygu] Adeiledd Mewnol
prif erthygl:Daeareg
Mae'r tu mewn i'r ddaear wedi ei wneud o haenau gwahanol sydd efo priodweddau ffisegol a cemegol gwahanol:-
[golygu] Gwres
Crëir gwres mewnol y ddaear gan ddadelfeniad isotopau ymbelydrol.
[golygu] Arwyneb y Ddaear
Mae 70.8% o'r ddaear wedi'i gorchuddio efo dwr. Mae'r gweddill uwchben y môr yn cynnwys mynyddoedd, plateau a gwastatiroedd.
[golygu] Atmosffer
prif erthygl:atmosffer y ddaear
Mantell o nwyon amddiffynnol o amgylch y Ddaear yw atmosffer y ddaear (hefyd "atmosffer") sy'n ein hynysu oddi wrth newidiadau tymheredd eithafol a fyddai'n digwydd hebddo. Mae tynfa disgyrchiant yn cynyddu'r dwysedd yn nes at arwynebedd y ddaear fel bod 80% o'r màs atmosfferig yn y 15km isaf.
[golygu] Hydrosffer
Cynnwys dŵr y Ddaear yw'r hydrosffer. Mae 97.5 o dwr y ddaear yn cynnwys halen. Mae'r moroedd yn amsugno Carbon Deuocsid o'r atmosffer.
[golygu] Hinsawdd
prif erthygl:hinsawdd
Hinsawdd yw cyflwr y tywydd mewn ardal dros gyfnod o amser. Cyflwr tymor hir o dywydd rhagweladwy yw hinsawdd. Mae hinsawdd y ddaear yn amrywio o le i le ac yn cael ei heffeithio gan nodweddion ffisegol y ddaear megis mynyddoedd, afonydd, lledred, diffeithdiroedd a diwasgeddau.
[golygu] Orbit a chylchdro
Mae'r Ddaear yn cymryd 24 awr i gylchdroi unwaith. Gelwir hyn yn ddiwrnod. Mae'r ddaear yn cymryd tua 365 diwrnod i fynd o amgylch yr haul. Gelwir hyn yn flwyddyn. Ar gyfartaledd mae'r Ddaear tua 150 miliwn milltir o'r haul, ac yn symud ar fuanedd o 108,000 m.y.a.. Mae'r Lleuad yn cylchdroi'r Ddaear bob 27.3 diwrnod. Mae atyniad disgyrchol y lleuad yn creu Llanw morol.
[golygu] Gweler hefyd
| Planedau yng Nghysawd yr Haul
|