Cylchgrawn
Oddi ar Wicipedia
Cyhoeddiad sy'n dod allan yn rheolaidd - fel arfer yn wythnosol neu fisol - ac sy'n cynnwys ystod o erthyglau ar wahanol bynciau gan sawl awdur yw cylchgrawn.
Mae cylchgronau o bob math wedi cael eu cyhoeddi yng Nghymru ers diwedd y 18fed ganrif. Un o'r cynharaf oedd Y Cylch-grawn Cynmraeg neu Drysorfa Gwybodaeth, chwarterolyn a gyhoeddwyd am gyfnod byr yn 1793-1794. Cofnodir y gair "cylchgrawn" ei hun am y tro cyntaf yng ngeiriadur Saesneg-Cymraeg John Walters, yr English-Welsh Dictionary (1770-1794).
Roedd cylchronau Cymraeg y 19eg ganrif yn tueddu i fod naill ai'n ymwneud â llenyddiaeth a hynafiaethau Cymru neu'n gyhoeddiadau crefyddol enwadol. Enghraifft dda o'r cyntaf yw Y Greal. Ond roedd hyd yn oed y cylchgronau enwadol yn cynnwys pytiau o newyddion a oedd bron yr unig ffynhonnell am ddigwyddiau'r dydd i'r werin bobl am gyfnod.
Bu rhaid aros yn hir i gael deunydd tebyg i'r cylchgronau amrywiol a gyhoeddid mewn gwledydd eraill yn y Gymraeg. Yn Lloegr roedd cylchgronau dychanol fel Punch yn hynod poblogaidd, er enghraifft, ac er y cafwyd fersiwn Cymraeg ni pharhaodd am hir.
I gryn raddau, llenyddiaeth sy'n dominyddu hanes y cylchgrawn yn yr 20fed ganrif yng Nghymru. Gellid nodi Y Llenor a Taliesin.
Y cylchgrawn hynaf i gael ei gyhoeddi, sy'n para i gael ei gyhoeddi heddiw, (a hynny mewn unrhyw iaith yn y byd) ydy'r Gwyliedydd sef cylchgrawn y mudiad Wesleaidd. Ymysg ei olgygyddion cyfoes y mae Owain Owain ac Angharad Tomos. Mae nifer o'r rhifynau cynharaf wedi eu gosod ar y we.[1]
Erbyn heddiw cyhoeddir sawl cylchgrawn Cymreig, yn Gymraeg a Saesneg. Y mwyaf llwyddiannus efallai yw Barn a Golwg.