Carreg Rosetta
Oddi ar Wicipedia
Slab o garreg arysgrifiedig a ddarganfuwyd yn 1799 yn Rosetta (Arabeg: Rashid), ger Alecsandria yng ngogledd Yr Aifft yw Carreg Rosetta. Mae'n dryll anghyflawn o dalp o garreg fasalt ddu sydd bellach yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain.
Ceir arni datganiad a wnaed gan y brenin Ptolemy V Epiphanes (teyrnasodd 205 CC-180 CC) yn 196 CC, a gofnodir mewn dwy iaith a thair sgript, sef hieroglyphiaid Eifftaidd, demotig a Groeg. Ceir 14 llinell o heieroglyphiaid, 32 llinell o ddemotig (sgript ddiweddarach ar gyfer ysgrifennu Hen Eiffteg) a 54 llinell o Roeg. Datganiad ynglŷn ag offeiriadaeth teml Memphis a geir arni.
Sylwodd yr ieithydd Thomas Young ar y ffaith fod un enw, sef enw'r brenin, yn dangos yn y tair sgript, ac aeth ati i ddechrau dehongli'r arysgrifiadau. Llwyddodd ieithydd arall, y Ffrancwr Jean-Francois Champollion, i gwblhau'r cyfieithu. Cyhoeddodd Champollion ei ddarganfyddiad yn y gyfrol Lettre à M. Dacier relative à l'aplphabet des Hiéroglyphes Phonétiques (1822). Fel hyn y cafwyd yr agoriad i fynd ati a darllen a dehongli holl arysgrifau Hen Eiffteg yr Aifft.
[golygu] Darllen pellach
- E. A. Wallis Budge, The Mummy (argraffiad newydd, 1989). Llyfr ar ddiwylliant yr Hen Aifft gan yr Eifftolegydd enwog sy'n cynnwys pennod diddorol ar hanes Carreg Rosetta.